Beth sy'n newydd?
Digwyddiad Ymgynghori ar gyfer Rhanddeiliaid, Llandudno – 30 Tachwedd 2009
Daeth tua 70 o gynrychiolwyr i Venue Cymru, Llandudno, ar 30 Tachwedd ar gyfer y cyntaf mewn cyfres o dri digwyddiad rhanbarthol i randdeiliaid â buddiant yn yr ymgynghoriad ar ‘Dalu am Ofal yng Nghymru’. Cafodd awdurdodau lleol, darparwyr gofal a sefydliadau’r sector gwirfoddol wahoddiad i anfon cynrychiolwyr i’r digwyddiad. Roedd yn gyfle i’r cynrychiolwyr glywed, gyda’u clustiau eu hunain, yr opsiynau diwygio sydd wedi’u cynnwys yn y Papur Gwyrdd, yn ogystal â chlywed barn gyfredol Llywodraeth Cynulliad Cymru am y broses ddiwygio, gan gynnwys araith gyweirnod gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol. Cafodd trafodaeth ei chynnal gan banel hefyd, gan gyflwyno safbwyntiau amrywiol am gynigion y Papur Gwyrdd. Fodd bynnag, cafodd y rhan fwyaf o’r diwrnod ei neilltuo i drafod mewn gweithdai, a oedd yn cynnig cyfle i’r cynrychiolwyr leisio eu barn a’u pryderon eu hunain am ddiwygio, a chynnig pwyntiau allweddol fel adborth. Y bwriad yw cynnal dau ddigwyddiad arall, yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin, ar 14 Ionawr a 1 Chwefror 2010. Bydd adroddiad ar y tri digwyddiad yn cael ei roi ar y wefan ar ôl y digwyddiad ar 1 Chwefror.
Ymgynghoriad Papur Gwyrdd ar yr opsiynau ar gyfer diwygio
Gall fod angen gofal a chymorth ar unrhyw un ohonom rywbryd yn ein bywydau. Ond sut y dylem dalu amdano?
Mae'r system bresennol o dalu am ofal i bobl hyn ac anabl ar waith ers 60 mlynedd, ac mae angen iddi newid er mwyn bodloni'r galw cynyddol a disgwyliadau uwch. Rydym am greu system sy'n symlach, yn decach ac yn fwy fforddiadwy i unigolion, eu teuluoedd a llywodraeth.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru am glywed eich barn chi ar sut y dylem dalu am ofal yn y dyfodol.
Cafodd y Papur Gwyrdd ‘Talu am Ofal yng Nghymru: creu system deg a chynaliadwy' ei gyhoeddi ar 16 Tachwedd 2009. Mae'n nodi nifer o opsiynau ar gyfer diwygio'r system bresennol ynghyd â phrif fanteision ac anfanteision pob un. Mae gennych tan 28 Chwefror 2010 i roi sylwadau ar yr opsiynau hyn a dweud wrthym pa fodel a fydd yn gweithio orau yng Nghymru yn eich barn chi.
Dysgwch fwy
- Cefndir
- Dogfen ymgynghori (yn agor mewn ffenestr newydd)(602k)

- Fersiwn hawdd ei ddarllen (yn agor mewn ffenestr newydd ac ar gael yn Saesneg yn unig) (5740K)

- Os oes gennych unrhyw ymholiadau, os hoffech gael copi caled o'r ddogfen ymgynghori, neu os hoffech gael copi mewn fformat amgen, anfonwch e-bost at payingforcare@wales.gsi.gov.uk
-
Beth sy'n newydd?

