Gweddnewid gwasanaethau cymdeithasol
Mae gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn seiliedig ar y gred bod angen i ni ddatblygu atebion sy'n unigryw i Gymru mewn perthynas â'r a wynebir yng Nghymru. Bydd llywodraeth leol yn parhau i fod wrth wraidd gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac mae'r gwasanaethau hynny yn seiliedig ar y syniad o wasanaeth teuluol integredig sy'n hyrwyddo annibyniaeth, camau ataliol ac ymyriadau cynharach fel bod gwasanaethau diogel a hyblyg o ansawdd uchel ar gael i bawb sydd eu hangen.
Strategaeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
Cafodd strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, 'Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol', ei chyhoeddi yn 2007.
Prif themâu'r strategaeth yw:
- yr angen i wasanaethau cymdeithasol gael arweinyddiaeth atebol, gref yn wleidyddol, yn broffesiynol ac yn rheolaethol;
- datblygu'r gallu i newid ac atgyfnerthu'r gweithlu ar gyfer anghenion modern;
- sicrhau bod llais y defnyddiwr a'r gofalwr wir yn cyfrif;
- symleiddio dulliau rheoli perfformiad drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau, gwella systemau rheoli perfformiad a gwybodaeth am berfformiad, mireinio prosesau caffael ac adolygu rheoliadau/adolygu'r broses reoleiddiol*;
- hyrwyddo partneriaethau cryfach sy'n gweithio ar draws ffiniau sefydliadol ac sy'n sicrhau bod y dinesydd yn ganolog i'w gwaith;
- cydweithio er mwyn sicrhau mwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddarparu gwasanaethau;
- gweithio i atgyfnerthu cymunedau.
Mae'r strategaeth yn cynnwys rhai egwyddorion allweddol sy'n ategu ein barn:
- llywodraeth leol fydd yn gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol o hyd gan weithio gydag eraill i gefnogi pobl sy'n agored i niwed a hyrwyddo cynhwysiant;
- bydd gwasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant yn parhau i fod yn gorff arweiniol proffesiynol fel bod teuluoedd yn cael eu cefnogi'n briodol;
- mae angen i wasanaethau gael eu hailgydbwyso tuag at gymryd camau ataliol ac ymyrryd yn gynt, yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar y rhai sydd â'r anghenion gofal mwyaf
- dylai awdurdodau lleol barhau i fod yn brynwyr ac yn ddarparwyr gwasanaethau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i gomisiynwyr chwarae rhan fwy gweithredol yn y gwaith o helpu i lunio'r farchnad gymysg o ofal preifat, cyhoeddus a gwirfoddol;
- mae'r strategaeth yn cydnabod yr angen i weithlu amrywiol gyflwyno'r modelau gwasanaeth newydd ond sy'n sicrhau bod gwaith cymdeithasol yn dal i fod yn alwedigaeth hyfforddedig a medrus iawn a ategir gan amrywiaeth o rolau;
- rhaid i wasanaethau cymdeithasol weithio'n agos â sectorau eraill fel gwasanaethau tai, ac yn arbennig y GIG.
Atebion yng Nghymru i Heriau yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi'n datblygu rhaglen ddeddfwriaethol unigryw ac arloesol i wella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, yn unol â'r pwerau a gynhwysir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae hyn yn cynnwys:
- Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer Gofalwyr er mwyn darparu'r pwerau sydd eu hangen i gyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn, a Mesur y Cynulliad ar ofalwyr er mwyn mynd i'r afael â materion sy'n bwysig i ofalwyr;
- Mesur Plant a Theuluoedd sy'n pennu cyfeiriad clir ar gyfer nod Llywodraeth Cynulliad Cymru o wella ansawdd bywyd plant a theuluoedd difreintiedig ledled Cymru a rhoi cyfle cyfartal iddynt; a
- Mesur y Cynulliad a fydd yn rhoi'r pwer i Weinidogion Cymru lunio rheoliadau sy'n sicrhau mwy o gysondeb a thegwch mewn perthynas â chodi ffioedd am wasanaethau cymdeithasol nad ydynt yn rhai preswyl ledled Cymru.
Drwy'r rheoliadau hyn ar gyfer codi ffioedd, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyflwyno Pecyn Gwella Camau Cyntaf cychwynnol o gamau gweithredu. Bydd y pecyn yn cynnwys rheoliadau sy'n:
- nodi uchafswm o £50 yr wythnos i'w dalu;
- ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddiystyried rhai budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd a roddir i bobl â lefelau uchel o anabledd wrth asesu'r gallu i dalu ffi resymol;
- atal awdurdodau rhag codi tâl am gludo unigolion i ganolfannau dydd;
- ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gyflwyno gweithdrefn ar gyfer adolygu ffioedd.
Ar 29 Medi 2009 cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai trefniadau newydd yn cael eu cyflwyno yn Lloegr a fyddai'n golygu bod gofal personol yn y cartref yn rhad ac am ddim i'r holl oedolion hynny sydd â'r lefel uchaf o anghenion gofal. Polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru fu sicrhau dull tecach a mwy cyson o godi tâl ar y bobl hynny sy'n derbyn gofal gartref ac yn y gymuned. Fe'i cymhwyswyd yn gyffredinol i bawb sy'n derbyn gwasanaethau. Mae'r polisi wedi sicrhau gwelliannau yn enwedig i'r rhai ar incwm isel.
Os cytunir ar ein deddfwriaeth newydd byddwn yn cyflwyno uchafswm o £50 yr wythnos i'w dalu ledled Cymru yn ogystal â gofynion eraill er mwyn sicrhau mwy o gysondeb. Credwn fod ein dull o weithredu yn decach ac yn fwy buddiol i nifer ehangach o ddefnyddwyr gwasanaethau na dim ond canolbwyntio ar y rhai â'r lefel uchaf o anghenion gofal.
Gwella'r broses o ddarparu gwasanaethau
Rydym yn gwella'r broses o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- datblygu fframwaith i sicrhau gwell proses o ddarparu gwasanaethau i bobl hyn - caiff hyn ei gwblhau yn 2010 a bydd yn darparu cyd-destun i'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau lleol er mwyn adlewyrchu anghenion lleol;
- ystyried sut y gall y cynllun gofal cartref am ddim am chwe wythnos gael ei gynnig mewn ffordd fwy cyson ac effeithiol i helpu pobl i ailafael yn eu hannibyniaeth;
- gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu fframwaith asesu anghenion gofal cyffredin fel ei fod yn adlewyrchu'n briodol egwyddorion gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn esgor ar ganlyniadau da i ddefnyddwyr gwasanaethau;
- annog awdurdodau lleol i ddatblygu ymhellach eu strategaethau gwybodaeth eu hunain ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, gan ddefnyddio arfer gorau o bob cwr o Gymru;
- gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu polisïau gofal unigryw sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru;
- ystyried pa waith pellach sydd angen ei wneud er mwyn amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed, gan gynnwys a oes angen rhagor o ddeddfwriaeth sylfaenol.
Heriau allweddol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
Ymhlith y prif heriau a chyfleoedd a welwn wrth i ni barhau i anelu at ragoriaeth a gwelliant parhaus o ran gwasanaethau cymdeithasol Cymru mae:
- sicrhau bod y cynnydd a wnaed dros y degawd diwethaf yn cael ei gynnal;
- mynd i'r afael â'r arferion a'r amrywiad annerbyniol mewn perfformiad sy'n parhau i fodoli mewn gormod o fannau;
- bod yn eglur ynghylch cyfrifoldeb lleol am wella gwasanaethau;
- adolygu'r fframwaith ar gyfer rheoleiddio, a'r safonau gofynnol cenedlaethol;
- ymestyn ac atgyfnerthu cydweithio;
- darparu mwy o ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n cefnogi annibyniaeth;
- arweinyddiaeth broffesiynol glir;
- croesawu economi gymysg o ran gofal cymdeithasol;
- datblygu a gwerthfawrogi'r gweithlu;
- cynnal a gwella gwasanaethau mewn hinsawdd ariannol sector cyhoeddus anodd.
Comisiwn ar ddyfodol gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu sefydlu Comisiwn i edrych ar ddyfodol gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, a fydd yn ystyried sut y gall gwasanaethau cymdeithasol ateb yr heriau a wynebir dros y degawd nesaf. Bydd hyn yn ystyried sut y gallwn wneud y canlynol, ymhlith pethau eraill:
- sicrhau gweledigaeth ar gyfer darparu gwasanaethau;
- cefnogi'r broses o ddatblygu arfer proffesiynol ymhellach;
- adeiladu gwasanaethau cymdeithasol cynhwysol yn seiliedig ar gyfraniad pob partner sy'n gweithio ym maes gwasanaethau cymdeithasol;
- gwella'r cydweithio rhwng partneriaid;
- sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol integredig yn cael eu darparu a all ddiwallu anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion a phobl hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Disgwylir i'r Comisiwn gyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau erbyn hydref 2010.
Byddwn yn gofyn i'r Comisiwn ystyried canfyddiadau'r ymgynghoriad hwn wrth lunio ei argymhellion i'w cyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad ynghylch cyfeiriad gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol.

